SL(5)082 - The Water Environment (Water Framework Directive) (England and Wales) Regulations 2017 (Gwnaed yn Saesneg yn unig)
Cefndir a Phwrpas
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Amgylchedd Dŵr (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2003("Rheoliadau 2003") a oedd yn trosi'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr 2000/60 / EC ("y CFfD"). Mae hyn yn ateb y diben deublyg o atgyfnerthu Rheoliadau 2003, a gafodd eu diwygio nifer o weithiau, a gwneud agweddau ar y Rheoliadau yn fwy manwl a thryloyw. Mae hyn mewn ymateb i Farn Resymedig y Comisiwn Ewropeaidd sy'n ymwneud â throsi'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.
Gweithdrefn
Negyddol
Craffu Technegol
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn (Rheol Sefydlog 21.2(ix): nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg).
Mae'r Memorandwm Esboniadol yn datgan:
Gan y bydd Senedd y DU yn craffu ar y Rheoliadau, nid ystyrir ei bod yn rhesymol ymarferol i’r offeryn hwn gael ei wneud na’i osod yn ddwyieithog.
Craffu ar rinweddau
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
17 Mawrth 2017